Bydd eich plant wrth eu bodd ar y cyfle hwn i fod yn greadigol wrth liwio, darlunio a phaentio â dyfrlliwiau yn yr awyr agored yn ein Tŷ Crwn. Wedi eu hysbrydoli gan Wings of Wales (a fydd ar y safle’r un diwrnod), caiff yr artistiaid ifanc gyfle i weld yr adar ysglyfaethus arbennig cyn eu darlunio.
£3.00 y plentyn | 3+ oed | Rhaid i riant neu warchodwr aros gyda’r plentyn.