Bydd cinio dydd Sul ar gael yn hytrach na’n bwydlen arferol rhwng canol dydd a 3.00pm ar y dyddiadau canlynol.
19, 26 Ionawr
2, 9, 16, 23 Chwefror
9, 16, 30 Mawrth
Does dim angen bwcio.
Dyluniwyd ein Canolfan Ymwelwyr gan benseiri arobryn, ac mae’n cynnig caffi moethus a balconi sy’n cynnig golygfeydd panoramig dros y llyn a’r gweithgareddau ar y dŵr. Heb os, dyma un o’r golygfeydd gorau yng Nghymru i’w mwynhau dros baned.
Lleoliad prydferth ar stepen y drws. Mae’r Caffi’n fwy o fwyty moethus gyda’i bwydlen fendigedig! Ac mae’n cynnig golygfa sydd heb ei hail.
Google Review
Y peth cyntaf y sylwch chi yw’r golygfeydd trwy’r ffenestri sy’n ymestyn o’r llawr i’r nenfwd. Ond bydd arogl hyfryd ein danteithion blasus yn dilyn yn fuan wedyn. Mae ffenestri ar bob ochr i’r lle golau ac agored yma felly fe welwch chi’r olygfa fendigedig dim ots ble dewiswch chi eistedd.
Mae’r ffenestri’n gallu agor allan i’r balconi lle gallwch fwyta yn yr awyr agored wrth wylio’r chwaraeon dŵr ar y llyn islaw. Mae croeso i gŵn ar y balconi felly gallwch ddod â nhw i orffwys gyda chi ar ôl eich antur. Rydyn ni’n darparu powlenni a dŵr felly gallant fwynhau diod hefyd.
Mae ein bwydlen yn cynnwys prydau dyddiol wedi eu paratoi â chynnyrch tymhorl ynghyd ag ambell i ffefryn boblogaidd. Rydyn ni’n hoffi cadw ein cynnig yn ffres, felly cofiwch fwrw golwg ar y bwrdd am ein prydau dyddiol.
Rydyn ni’n enwog am ein brecwast poeth!
Mae te prynhawn ar gael hefyd, ond rhaid bwcio ymlaen llaw.
Mae bwyd gennym i’w gludo allan hefyd gan gynnwys brechdanau a rolion ffres, rholion selsig poeth, pasteiod, melysion, cacennau, bara brith, pice ar y maen a’n sgons cartref poblogaidd gyda hufen tolch a jam.
Mae’n ddigon i dynnu dŵr i’ch dannedd on’d yw e?!

Dewiswch o blith ein prydau dyddiol neu codwch bicnic!
Mae ein bwydlen cinio’n cael ei baratoi gan ddefnyddio cynnyrch tymhorol lleol lle bo modd. Mae bwydlen i blant ar gael hefyd – holwch aelod o’r tîm am fanylion. Mae opsiynau llysieuol, figan a di-glwten ar gael. Rydyn ni’n gwybod eich bod am gael cwmni eich ci wrth fwyta, felly ar ddiwrnod braf gallwch fwyta gyda nhw ar y balconi.
Does dim byd cystal â phicnic yn yr awyr agored! Croeso i chi ddod â’ch bwyd eich hun a manteisio i’r eithaf ar harddwch y lle. Mae digonedd o fyrddau picnic awyr agored o gwmpas y llyn a’r ardal ymwelwyr, sy’n golygu ei bod hi’n hawdd eistedd nôl, ymlacio a mwynhau tamaid gyda theulu a ffrindiau wrth ymgolli yn y golygfeydd godidog.
Bydd cinio dydd Sul ar gael yn hytrach na’n bwydlen arferol rhwng canol dydd a 3.00pm ar y dyddiadau canlynol: 23 Chwefror a 9, 16, 30 Mawrth. Does dim angen bwcio.
Te i ddau â golygfa fendigedig?
Mae Te Prynhawn ar gael, ond rhaid bwcio ymlaen llaw. Tretiwch eich hun â detholiad o frechdanau ac amrywiaeth o gacennau.
Ychwanegwch eich dewis o ddiod boeth, o de ffrwythau i goffi ffres.
Mae gennyn opsiwn llysieuol a figan hefyd.
Ond nid oes angen cyfyngu’r te i ddau, gwahoddwch eich ffrindiau i ymuno yn y wledd.
Rydyn ni ar agor trwy gydol y flwyddyn ac mae’r oriau agor yn dymhorol
Oriau agor yr Haf
Mawrth – Medi: 9:30am – 5:00pm
Brecwast 9.30am – 11.15am | Cinio 12:00 – 3.30pm
Oriau Agor y Gaeaf
Hydref – Chwefror: 9:00am – 4:00pm
Brecwast 9.00am – 11.00am | Cinio12:00 – 3.00pm
Dylid nodi y byddwn ar gau dros y Nadolig ar 25, 26 a 31 Rhagfyr.