Yng nghefndir prydferth Dyffryn Wysg ar y ffin rhwng Sir Fynwy a Thorfaen, mae Llyn Llandegfedd yn hyb ar gyfer iechyd, lles a hamdden gwta ugain milltir o Gaerdydd.
Mae Caffi Glan y Llyn yn y ganolfan ymwelwyr yn cynnig golygfeydd panoramig godidog dros y dŵr, ac mae ein Canolfan Chwaraeon Dŵr pwrpasol modern yn cynnig chwaraeon rhwyfo a hwylio i bobl o bob oedran a gallu ynghyd â sesiynau nofio dŵr agored. Mae pob math o weithgareddau a digwyddiadau tir sych ar gael hefyd.
Mae Llyn Llandegfedd yn lle gwych i bysgota, mynd am dro, cael picnic a gwylio bywyd gwyllt hefyd.
Rydyn ni’n cynnig rhai o brofiadau hwylio gorau de Cymru. Ymhlith ein gweithgareddau eraill ar y dŵr mae hwylfyrddio, hwylio dingis, rhwyf-fyrddio a phedalfyrddio, canwio a chaiacio.
Mae’r amodau’n rhagorol i bysgota o’r lan ac o gwch. Rydyn ni’n stocio’r llyn â brithyll seithliw yn rheolaidd, a gallwch ddal brithyll brown brodorol hefyd. Mae’r gronfa’n adnabyddus am ei benhwyaid mawr.
Er ein bod ni’n adnabyddus am chwaraeon dŵr a physgota yn Llyn Llandegfedd, mae gennym ddigonedd o weithgareddau i’w mwynhau ar dir sych yn ystod eich ymweliad hefyd. Dysgwch grefft hynafol taflu bwyeill neu rhowch gynnig ar saethyddiaeth.
Rhan hyfryd a phrydferth o dde Cymru ger Pont-y-pŵl. Rydyn ni gwta 20 milltir o Gaerdydd a llai na 10 milltir o Gasnewydd. Gyda chronfa fawr 434 erw, mae’r ffin rhwng sioedd Mynwy a Thor-faen yn rhedeg trwy ganol y dŵr.
• AM FANYLION •Lle gwych i ddechrau’ch ymweliad. Ar ôl parcio yn y maes parcio uchaf, dilynwch y llwybr i lawr ac fe welwch chi ni ar lan y llyn. Dyma’r lle delfrydol i chi fwynhau’r golygfeydd dros baned neu damaid o fwyd.
• AM FANYLION •Mae ein bwydlen yn cynnwys prydau dyddiol wedi eu paratoi â chynnyrch tymhorl ynghyd ag ambell i ffefryn boblogaidd. Mae ein bwyd yn cael ei baratoi’n ffres, ac mae opsiynau llysieuol a di-glwten ar gael. Rydyn ni’n hoffi cadw ein cynnig yn ffres, felly cofiwch fwrw golwg ar y bwrdd am ein prydau dyddiol.
• AM FANYLION •Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw’r hawl i gau safle Llyn Llandegfedd yn llwyr neu’n rhannol, cyfyngu ar fynediad at y dŵr neu ganslo gweithgaredd unrhyw bryd os yw’n credu bod yna amodau anaddas neu risgiau na ellir eu rheoli. Mae diogelwch o’r pwys mwyaf yn ein holl weithgareddau Ond mae chwaraeon dŵr a gweithgareddau antur yn beryglus o ran eu natur, ac mae yna risgiau. Rhaid i gwsmeriaid gydymffurfio â’r holl reoliadau diogelwch ac â chyfarwyddiadau tîm Llyn Llandegfedd bob amser.