Dewiswch eich Antur ar Dir Sych
Saethu Clai â Laseri
Heriwch eich ffrindiau a’ch teulu i roi cynnig ar ein gynnau laser hollol fodern â phaladrau is-goch anweledig. Byddwch chi’n saethu’r un pryd ag eraill ac ochr yn ochr â’ch gilydd, felly’r sgorfwrdd electronig fydd yn dweud pwy sydd â’r llygad orau! Y cyfuniad perffaith o hwyl gyfeillgar ag ychydig bach o gystadlu.
• BWCIWCH NAWR •Golff Bach
Rydyn ni’n enwog am ein chwaraeon dŵr, ond mae digonedd i’w wneud ar y lan hefyd, felly os yw golff bach yn mynd â’ch bryd, dewch i roi cynnig ar ein profiad Golff Antur Bach. £3 i oedolion £2 i blant. Gallwch drefnu sesiwn yn ein Caffi Coffi Cyflym ar lawr isaf y Ganolfan Ymwelwyr. Golff-didog!
Taflu Bwyeill
Dyma’ch cyfle chi i fod yn Ryfelwr Dŵr Cymru! Deffrwch y Celt sydd ynoch chi er mwyn dysgu sgiliau a thechnegau hynafol taflu bwyeill. Ffordd gyffrous o ymarfer corff, bydd y sesiwn yn cynnig cyflwyniad i hanfodion technegau taflu bwyeill.
• BWCIWCH NAWR •Saethyddiaeth
Mae crefft draddodiadol saethyddiaeth yn ffordd wych o fwynhau hwyl i’r teulu. Mae’n berffaith i bob math o achlysuron fel digwyddiadau magu tîm corfforaethol, partïon pen-blwydd a dathliadau preifat. Cadwch lygad yn y fan yma am fanylion dros y misoedd nesaf.
• BWCIWCH NAWR •