Llyn Llandegfedd

Ymgolli ym Myd Natur

Fflora a Ffawna

Gan Dŵr Cymru

Bywyd Gwyllt yn Llyn Llandegfedd


Yn nhirwedd fryniog y de-ddwyrain, rhwng Brynbuga a Phont-y-pŵl, mae Llyn Llandegfedd yn safle 434 erw ag amrywiaeth o gynefinoedd a phob math o fywyd gwyllt.

Cynefinoedd Naturiol Llandegfedd


Gyda’i dapestri o laswelltir, coetiroedd, prysgwydd ac amgylcheddau glan dŵr, mae Llyn Llandegfedd yn hafan i fyd natur.


Coetiroedd

Coed derw, ynn, a ffawydd sydd yn coetiroedd yn bennaf, ond lle mae’r coed wedi disgyn neu wedi cael eu dymchwel, mae rhywogaethau arloesol fel coed bedw yn llewyrchu.

Mae’r is-haen o goed cyll a mieri’n cynnig cynefin bendigedig ar gyfer adar nythu, yn ogystal â bwyd a lloches i famaliaid bychain.


Prysgwydd

Mae prysgwydd i’w gweld yn aml lle mae’r coetir yn dechrau neu’n dod i ben; neu lle gallai coetir ddatblygu (e.e. ar laswelltir heb ei reoli neu gaeau segur).

Llystyfiant wedi ei ddominyddu gan lwyni a phrysglwyni â llawer o goesynnau, fel y ddraenen ddu a’r ddraenen wen, yw prysgwydd ar y cyfan. Gallant dyfu i ryw bedwar metr o uchder – gan ddatblygu rhyw fath o ganopi.

Mae’r prysgwydd yn gynefin hynod o werthfawr yn Llandegfedd ac yn un y mae llawer o’n rhywogaethau’n dibynnu arno i oroesi.


Glaswelltir

Mae’r glaswelltiroedd o bwys cenedlaethol ar hyd lan gogleddol y llyn yn cael eu rheoli fel dolydd gwair. Mae lladd gwair yn helpu i ledu hadau blodau gwyllt ac yn gwella bioamrywiaeth. Mae defaid yn pori’r glaswellt byr sydd ar ôl ar ôl torri’r gwair er mwyn ei gadw’n isel ar gyfer yr adar dŵr sy’n pori yno dros y gaeaf.

Mae’r dolydd hyn yn gartref i amrywiaeth o flodau gwyllt, gan gynnwys y tegeirian gwenynnog, tegeirian cors y de, y tegeirian brych, y gribell felen a rhywogaethau mwy prin fel cynffonwellt melyngoch a rhedyn tafod y neidr.


Yn y Dŵr ac ar y Lan

Mae’r llyn ei hun yn gartref i boblogaeth amrywiol o bysgod, gan gynnwys brithyllod seithliw, merfogiaid, cochiaid, penhwyaid a physgod garw. Gwelwyd llysywod pendoll yr afon a’r môr yno hefyd. Pob gwanwyn, mae llyffantod du yn gwneud eu ffordd i’r llyn i fridio.


Anifeiliaid Llandegfedd


Adar

Yn hafan i adaryddwyr, mae Llyn Llandegfedd yn safle pwysig ar gyfer adar yng Nghymru, a chofnodwyd dros 240 o rywogaethau yno. Gallwch weld gweilch y pysgod yn yr hydref, crehyrod yn y gwanwyn, ac ymwelwyr fel y gors-hwyaden lwyd, yr hwyaden lydanbig a’r chwiwell Ewrasiaidd yn y gaeaf. Gallech fod yn ddigon ffodus i weld gwyachod a throchyddion prin yn y dyfroedd dyfnach, ac adar hirgoes fel y cwtiad torchog cyffredin, y cwtiad torchog bach a’r bioden môr Ewrasiaidd yn ystod y tymor mudo.

Mae Llandegfedd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig diolch i’r boblogaeth o adar sy’n treulio’r gaeaf yno.


Pryfed

Mae gloÿnnod byw yn llewyrchu ar y safle ac maent yn cynnwys rhywogaethau llai cyffredin fel y glöyn gwyn cleisiog a’r foneddiges borffor.

Cadwch lygad yn agored am geiliog y rhedyn, crics a chrics penfain yn y dolydd. I ddenu’r crics benywaidd, mae crics gwrywaidd yn rhwbio eu hadenydd gyda’i gilydd i greu sŵn rhincio neu suo sydd bron y tu hwnt i glyw pobl.


Ymlusgiaid ac Amffibiaid

Mae nadredd llwyd a gwiberod yn hoff o’n cynefinoedd glaswelltir a phrysgwydd. Mae madfallod dŵr palfog a brogaod cyffredin yn dibynnu ar y dŵr i fridio, ond yn treulio gweddill y flwyddyn yn bwydo ar greaduriaid di-asgwrn cefn yn y coed, y llwyni a’r glaswellt.


Mamaliaid

Mae’r cyfoeth o bryfed yn amgylchedd y llyn yn denu sawl rhywogaeth o ystlumod, gan gynnwys ystlumod Daubenton, ystlumod clustiog brown, ystlumod mawr, ystlumod barfog ac ystlumod Natterer. Mae ystlumod lleiaf cyffredin a soprano yn bresennol hefyd.

Mae dyfrgwn yn bresennol, ond prin iawn y bydd neb yn eu gweld am eu bod mor dda am guddio. Mae gennym boblogaeth dda o lygod yr ŷd a hyd yn oed ambell i bathew.


Uchafbwyntiau Eraill


Llogi Ystafelloedd

Bwciwch achlysur neu gyfarfod busnes gyda ni a chewch ddefnydd llwyr o’r ystafell gyfarfod fawr uwchben y Ganolfan Chwaraeon Dŵr.

• AM FANYLION •

Cerdded

Closiwch at fyd natur trwy archwilio un o’n llwybrau cerdded a’n teithiau wedi eu marcio, sy’n ddelfrydol i blant chwarae, dringo ac anturio.

• AM FANYLION •

Chwaraeon Dŵr

Mae ein Canolfan Gweithgareddau bwrpasol yn arbenigo mewn hyfforddiant a llogi offer. Gallwch ddod â’ch offer eich hun a thalu am ddefnyddio’r llyn yn unig hefyd.

• AM FANYLION •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR