Ymunwch â ni am y profiad eithaf o hebogyddiaeth wrth i Wings Of Wales ymweld â Llyn Llandegfedd gydag ambell i westai arbennig iawn gan ynghyd â’r ffotagraffydd cadwraeth a’r adaryddwr Lewis Phillips.
Yn ystod yr arddangosiad, fe ddysgwch chi ble mae’r holl rywogaethau hyn yn byw, ac am eu statws cadwraeth a’u hymddygiad. Bydd yna arddangosfeydd hedfan a sgyrsiau addysg yn ogystal â chyfle i ddod i gysylltiad â’r adar arbennig yma. Bydd yna gyfleoedd i ddysgu am y prosiectau y mae Lewis wrthi’n eu cyflawni ar hyn o bryd er budd cadwraeth yng Nghymru.
Nid oes angen bwcio, dim ond galw draw!
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â dod â chŵn i ardal y digwyddiad.