Dewch ag antur ac egni i’ch achlysur nesaf gyda’n wal ddringo symudol.
Bydd ein tîm gweithgareddau Dŵr Cymru profiadol yn cludo’r wal ddringo symudol i’ch lleoliad ac yn ei gweithredu gweithgaredd hwyliog ac egnïol ar gyfer partïon, ysgolion, achlysuron cymunedol, diwrnodau corfforaethol a dathliadau grŵp – a bydd y lluniau’n werth eu gweld wedyn!
Dros 7 metr o uchder, mae tri wyneb gwahanol i’r wal ac mae’n cynnig profiad cyffrous i bobl o amrywiaeth o oedrannau a lefelau gallu.
Partïon pen-blwydd
Achlysuron grwpiau ieuenctid
Gwyliau a diwrnodau cymunedol
Gweithgareddau tîm corfforaethol
Clybiau chwaraeon a diwrnodau gweithgarwch
Dathliadau grŵp
Y pris yw £450 y dydd sy’n cynnwys pum awr o weithredu’r wal ddringo, hyfforddwyr, gosod, datgymalu ac offer diogelwch. Codir tâl ar wahân o £40 yr awr am gostau teithio, ag isafswm o 1 awr, o Gronfeydd Llys-faen a Llanisien.
Cysylltwch trwy e-bost lisvaneandllanishen@dwrcymru.com i ofyn am wybodaeth bellach, holi am ddyddiadau, cael dyfynbris a diogelu eich dyddiad.
Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth bennaf. Mae ein wal ddringo yn cael ei gweithredu i safonau uchel, gan roi hyder i chi wrth drefnu eich achlysur.
Asesiadau cyflawn o risg a datganiadau o ddull
Hyfforddwyr cymwys a phrofiadol
Offer sy’n cael ei archwilio’n rheolaidd a’i brofi’n drylwyr
Sesiynau briffio clir i bawb sy’n cymryd rhan
Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cynhwysfawr
Gweithrediad sy’n gyson â rheoliadau iechyd a diogelwch y DU