Sesiynau

Dipio Dŵr Oer

Sesiynau

Gan Dŵr Cymru

Dipio Dŵr Oer

Darganfyddwch bŵer suddo i fyd adfywiol a bywiocaol dipio dŵr oer mewn lle hollol brydferth!

Mae dipio dŵr oer yn weithgaredd iachaol a hwyliog sy’n gallu hybu iechyd meddwl a chorfforol.


Awydd ymuno â chymuned dipio dŵr oer Llyn Llandegfedd?

Gallwch ddipio mewn siwt wlyb neu mewn ‘croen nofio’ (sef enw’r gymuned dipio dŵr oer am wisg nofio arferol).

Ymlaciwch, cadwch yn heini a datblygwch eich gwytnwch trwy gydol y flwyddyn!

Opsiynau


Cyrsiau (Dod yn fuan)

Hanfodion Diogelwch


Hoffem eich atgoffa na chaniateir nofio heb awdurdod yn ein cronfeydd ac mae gwneud hynny’n eithriadol o beryglus. Mae ein sesiynau dipio dŵr oer a nofio dŵr agored wedi eu rheoleiddio o dan oruchwyliaeth ofalus ein tîm sydd wedi cael hyfforddiant trylwyr. Dim ond mewn rhannau dynodedig o’r gronfa y cynhelir y sesiynau er mwyn cadw draw wrth y peiriannau cudd yn y dŵr, a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Ymhlth peryglon nofio heb awdurdod mewn cronfeydd mae

Peiriannau awtomatig o dan wyneb y dŵr sy’n gallu dechrau gweithredu heb rybudd clir

Mae hyd yn oed y nofwyr cryfaf yn gallu mynd i drafferthion mewn dŵr sy’n oer iawn ac yn ddwfn

Mae’r rhan fwyaf o gronfeydd mewn lleoliadau anghysbell, heb signal ffôn poced da, sy’n lleihau’n ddifridol y tebygolrwydd y daw rhywun i’ch achub

Achrediad Lleoliad

Mae Llyn Llandegfedd wedi ennill Achrediad SAFE Cymru.

Datblygwyd SAFE Cymru gan Nofio Cymru mewn partneriaeth agos â Triathlon Cymru, ac mae’r cynllun wedi ennill cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a’r AWWSG fel y pinacl o safonau cyfleusterau dyfrol diogel yng Nghymru.

Mae SAFE Cymru’n ein helpu ni i hyrwyddo a datblygu nofio dŵr agored yn ddiogel. Bydd safonau rhyngwladol Nofio Cymru yn darparu’r adnoddau a’r safonau sydd eu hangen i sicrhau cyfranogiad diogel yng Nghymru.

Uchafbwyntiau Eraill


Hwylfyrddio

Nid oes yna ddim sy’n fwy gwefreiddiol na sgimio dros wyneb y dŵr. Os ydych chi am roi cynnig ar weithgaredd sy’n gweithio pob rhan o’r corff, yna hwylfyrddio yw’r union beth i chi.

• AM FANYLION •

Caffi Glan y Llyn

Dyluniwyd ein Canolfan Ymwelwyr gan benseiri arobryn, ac mae’n cynnig caffi braf a balconi sy’n cynnig golygfeydd panoramig dros y llyn a’r gweithgareddau ar y dŵr. Heb os, dyma un o olygfeydd gorau Cymru i’w mwynhau dros baned.

• AM FANYLION •

Llogi Offer

Mae gennym amrywiaeth eang o offer o safon uchel i chi ei logi, o rhwyf-fyrddau i ganŵs, a chaiacs i un, dau neu dri pherson.

• AM FANYLION •

Dipio Dŵr Oer – Cwrs cyflwyno


Rhaid mynychu’r cwrs cyflwyno cyn y dip cyntaf, ac mae’n cwmpasu dipio dŵr oer yn ddiogel, arferion gorau, a chyngor ar offer addas.

Bydd y cyfranogwyr yn dysgu am y sialensiau meddyliol a chorfforol sy’n gysylltiedig â dipio, ac yn darganfod manteision bendigedig ymdrochi mewn dŵr oer i iechyd a lles.

Achredu gan yr Institute for Outdoor Learning.


Cwrs cyflwyno – £35 y person

Yn cynnwys cyflwyniad achrededig dwyawr o hyd, a sesiwn ymdrochi dan arweiniad.

Thystysgrif y cwrs.

Mwy! Pum sesiwn ymdrochi i’w defnyddio unrhyw bryd yn ystod tymor 2025-26.


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR