Os ydych chi’n awyddus i gael sesiwn gyda hyfforddwr cymwys, rydym yn cynnig llawer o gyrsiau chwaraeon dŵr yn Llyn Llandegfedd.
Rhowch gynnig ar weithgaredd newydd, dysgu’r sgiliau sylfaenol neu eu datblygu. Dewiswch chi. Darperir yr holl offer felly dewch draw gyda thywel, dillad nofio a gwên!
Lle gwych i ddechrau eich taith chwaraeon dŵr, mae’r sesiynau 90 munud hyn yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar weithgaredd newydd gyda hyfforddwr cymwys. Mae gennym sesiynau blasu hwylio, padlfyrddio, canŵio a cheufadu.
P’un a ydych chi’n dewis cyfuniad o’r canŵ traddodiadol, ceufad chwim, padlfwrdd modern neu gwch hwylio traddodiadol, mae ein sesiynau blasu aml-weithgaredd yn rhoi cyfle i chi ddarganfod eich hobi nesaf…
Mae amrywiaeth o gyrsiau chwaraeon dŵr Llandegfedd ar gyfer dechreuwyr ac er mwyn gwella yn eich helpu i gael y gorau o’ch hobi, p’un a yw’n hwylio, hwylfyrddio neu yrru cwch pŵer. Wedi’i achredu gan y Royal Yachting Association.
Dysgwch sut i wella eich sgiliau hwylio, padlfyrddio, canŵio, ceufadu neu hwylfyrddio gyda’n hyfforddwyr arbenigol.
Gallwch gael hyfforddiant preifat unigol ar amrywiaeth o lefelau sgiliau gan un o’n hyfforddwyr padlfyrddio, ceufadu, canŵio, hwylio neu hwylfyrddio. Ebost: llandegfeddenquiries@dwrcymru.com.