Treuliodd fy mab a fi ddwy awr bendigedig yn rhwyf-fyrddio. Cawsom ni lwyth o hwyl ac roeddem ni wrth ein boddau. Byddem ni’n sicr yn ei gwneud hi eto neu’n rhoi cynnig ar rywbeth arall. Roedd y mesurau iechyd a diogelwch yn plesio’n fawr, a chawsom ni bryd hyfryd yn y caffi braf yno wedyn.
TripAdvisor Review
Yn Llyn Llandegfedd, rydyn ni’n croesawu dechreuwyr, hen lawiau a phawb yn y canol.
Gallwch ddod â’ch cit eich hun i hunan-lansio, archebu lle ar gwrs, llogi’r holl offer gennym ni neu ymuno yn un o’n sesiynau cymdeithasol.
Mae Rhwyf-fyrddio’n ddatblygiad o syrffio lle’r ydych chi’n sefyll ac y bwrdd ac yn defnyddio rhwyf fawr i’ch gyrru yn eich blaen yn hytrach na gorwedd ar y bwrdd a phadlo. Mae poblogrwydd Rhwyf-fyrddio ar dwf ac rydyn ni’n falch o’i gynnig yma. Mae hi’n ffordd wych o ymarfer y corff i gyd, yn enwedig y cyhyrau craidd, ac yn gwella ystwythder, cydsymud a’ch ffordd o fyw.
Mae’r Pedalfwrdd yn declyn newydd sbon sy’n cyfuno hwyl SUO â’r cysur o fariau llaw. Rydyn chi’n stepio ar ddau bad pedalu ar y bwrdd sy’n gyrru’r ddwy asgell o dan y bwrdd sydd, yn eu tro yn eich gyrru chi ymlaen mewn ffordd hynod effeithlon a chyflym.
Gan gyfuno’r chwaraeon dŵr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd â manteision Ioga, dyma’r llwybr perffaith i les yng nghefndir prydferth bryniau Cymru. Nid oes angen unrhyw brofiad o rwyf-fyrddio na ioga.
Mae’r Llyn yn cael ei stocio ar gyfer pysgotwyr a gellir pysgota o’r lan neu o gwch am frithyll seithliw a brithyll brown.
• AM FANYLION •Mae gennym ddigonedd o weithgareddau i chi eu mwynhau ar dir sych yn ystod eich ymweliad. Rydyn ni’n cynnig saethyddiaeth ac taflu bwyeill.
• AM FANYLION •Closiwch at fyd natur trwy archwilio un o’n llwybrau cerdded a’n teithiau wedi eu marcio, sy’n ddelfrydol i blant chwarae, dringo ac anturio.
• AM FANYLION •