Mwynhewch y golygfeydd anhygoel wrth grwydro’r goedwig, a chofiwch gadw llygad am y gwestai chwilod a’r blychau adar ar hyd y ffordd.
Taith gerdded fer i deuluoedd sy’n crwydro’r goedwig mewn cwta 30 munud.
Map OS Explorer 152 Dechrau yn ST 329 986
Gan ddechrau yn y Ganolfan Ymwelwyr, dilynwch y palmant ac ewch heibio i flaen y Ganolfan Chwaraeon Dŵr. Fe welwch chi arwydd sy'n dangos cyfeiriad y llwybrau cerdded. Dilynwch y llwybr trwy'r gât a fydd yn mynd â chi i'r cae. Ar y llwybr yma, bydd angen i chi droi i'r dde ar ôl mynd trwy'r gât a mynd i fyny'r bryn gan ddilyn ymyl dde'r cae.
Trowch i'r dde yn syth ar ôl mynd i'r cae ac ewch i fyny'r bryn nes gweld toriad/croesfan yn y ffin hanner ffordd i fyny trwy'r cae. Manteisiwch ar y cyfle i droi rownd i fwynhau'r olygfa odidog o'r Llyn cyn croesi i'r cae nesaf a pharhau nes cyrraedd y gât i'r goedwig.
Ewch i mewn i'r goedwig a dilynwch y llwybr sy'n mynd i lawr heibio i'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr a'r Parc Dinis cyn dingo eto i'r cae uwchben y Ganolfan Ymwelwyr. Cadwch i'r chwith ac ewch yn ôl i mewn i'r goedwig a fydd yn mynd â chi i'r maes parcio uchaf.
Dilynwch y llwybr o'r maes parcio yn ôl i lawr i'r Ganolfan Ymwelwyr gan gofio aros i dynnu llun o Benhwyad enwog Llandegfedd trwy'r pwynt camera.
4.0m / 6.5km. Mwynhewch dro bach hamddenol ar hyd lan dwyreiniol prydferth y llyn a dros y caeau yn y gogledd.
• I’R LLWYBR •6.0m / 10.0km Taith hirach sy’n dangos golygfeydd prydferth Llyn Llandegfedd ar eu gorau.
• I’R LLWYBR •1.5m / 2.5km. Taith gerdded fer yw Llwybr Cerdded Coed y Paen trwy gaeau fferm i bentref Coed y Pane cyn ymweld â Llyn Llandegfedd i fwynhau’r golygfeydd.
• I’R LLWYBR •