Taith gerdded fer yw Llwybr Cerdded Coed-y-paen trwy gaeau fferm i bentref Coed-y-paen cyn ymweld â Llyn Llandegfedd i fwynhau’r golygfeydd.
Dylai ymwelwyr wisgo esgidiau addas pan fyddant yn cerdded ar ein llwybrau.
Ewch am dro byr allan trwy’r caeau fferm i bentref cyfagos Coed-y-paen cyn troi nôl am y Llyn, gan aros i fwynhau’r golygfeydd bendigedig ar hyd y ffordd.
Map OS Explorer 152 Dechrau yn ST 329 988
Gan ddechrau yn y Ganolfan Ymwelwyr, dilynwch y palmant ac ewch heibio i flaen y Ganolfan Chwaraeon Dŵr. Fe welwch chi arwydd sy'n dangos cyfeiriad y llwybrau cerdded. Dilynwch y llwybr trwy'r gât a fydd yn mynd â chi i'r cae. Trowch i'r dde ar ôl mynd trwy'r gât ac ewch i fyny'r brin gan ddilyn ymyl dde'r cae.
Parhewch i ben y cae nes cyrraedd y gât. Gwnewch y cyfle i droi rownd i fwynhau'r olygfa o'r llyn o'ch safle dyrchafedig.
Ewch trwy'r gât a dilynwch y llwybr trwy gât arall i ymuno â'r ffordd. Trowch i'r dde a dilynwch y ffordd i bentref bach ond prydferth Coed y Paen. Yng Nghoed y Paen, fe welwch eglwys ar y chwith a blwch ffôn coch o'ch blaen.
Trowch i'r dde ar ôl mynd heibio i'r blwch ffôn, a dilynwch y ffordd nôl i lawr i'r Ganolfan Ymwelwyr. Wrth fynd i lawr (â gofal am fydd yna draffig) fe welwch chi olygfeydd bendigedig o drefi cyfagos Cwmbrân a Phont-y-pŵl.
6.0m / 10.0km Taith hirach sy’n dangos holl olygfeydd bendigedig o amgylch Llyn Llandegfedd.
• I’R LLWYBR •4.0m / 6.5km Mwynhewch dro bach hamddenol ar hyd lan dwyreiniol prydferth y llyn a dros y caeau yn y gogledd.
• I’R LLWYBR •1.0m / 1.5km Taith gerdded fer i deuluoedd sydd am grwydro’r goedwig mewn cwta 30 munud.
• I’R LLWYBR •