Cyflwyniad i Hwylio
Sesiwn dwy awr a hanner sy’n cynnig cyflwyniad i hwylio dingis. Bydd y sesiwn yn dechrau dangos hanfodion llywio a chriwio i chi gyda hyfforddwr ar fwrdd y cwch. Sesiwn hwyliog sy’n gallu arwain ymlaen at gyrsiau hwylio eraill os ydych chi’n dymuno. Neu gallwch gael blas ar gamp newydd sy’n gallu arwain at hobi newydd neu ffordd newydd o fyw. Mae angen o leiaf 1 berson i gynnal sesiwn. £60 y person
• BWCIWCH NAWR •Lefel 1 – Mynd ar y Dŵr (Dechrau Hwylio)
Cyflwyniad i’r gamp sy’n cwmpasu’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i fynd i’r dŵr heb oruchwyliaeth. £200 y person neu £360 os oes dau oedolyn yn bwcio gyda’i gilydd.
• BWCIWCH NAWR •