Codwch fap a thaflen cliwiau o’r caffi ac ymunwch yn yr hwyl!
Allwch chi ffeindio’r llythrennau cudd i sillafu’r gair ar thema’r Pasg i hawlio’ch gwobr? Talwch yn y caffi wrth gyrraedd a cewch wobr siocled a phecyn Pasg ar y diwedd. Mae’r pecynnau Pasg yn cynnwys llyfr lliwio, pecyn creons, balwn, sticeri a chwdyn.
£5.00 y plentyn