Profiad

Brecwast a Chinio

Siôn Corn ar Lan y Llyn

Nadolig Llawen!

Gan Dŵr Cymru

5 Dec – 13 Dec

Profiad Brecwast a Chinio Siôn Corn ar Lan y Llyn

Mae’n bleser rhannu bod Siôn Corn wedi dod o hyd i fwlch yn ei galendr ’Dolig prysur i ymweld â Llyn Llandegfedd eto ym mis Rhagfyr!

Wrth i’r ceirw gymryd sbel i fwynhau glaswellt ein dolydd gogleddol, bydd Siôn Corn yn galw heibio i Gaffi Glan y Llyn i gwrdd â theuluoedd a lledu hwyl yr ŵyl.

Dechreuwch eich ymweliad Nadoligaidd â brecwast neu ginio blasus yng Nghaffi Glan y Llyn cyn cwrdd â’r dyn ei hun. Bydd cyfle i bob plentyn sgwrsio gyda Siôn Corn fesul un a chael anrheg arbennig i’w gadw.

Oedolyn: £19.95

Dan 2 oed: Am ddim


Brecwast gyda Siôn Corn

Dydd Sadwrn 12 a Dydd Sul 13 Tachwedd, 10.00 – 11.30am

Dydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Rhagfyr, 10.00am – 11.30am

• BRECWAST GYDA SIôN CORN •


Cinio gyda Siôn Corn

Dydd Sadwrn 12 a Dydd Sul 13 Tachwedd, 1.00 – 2.30pm

Dydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Rhagfyr, 1.00 – 2.30pm

• CNIO GYDA SIôN CORN •


Bwydlenni

Brecwast i Oedolion

Rholion surdoes (V, VE)

Cig moch, selsigen porc gydag omled wedi ei bobi a blagur pys (GF ar gael)

neu

Pati ffacbys figan, gyda stwnsh afocado, tomato rhost a blagur pys (VE, V, GF ar gael)

Te/Coffi neu Ddiod Mefus

Cinio i Oedolion

Rholion Surdoes Agored Tymhorol:

Rhôl tymhorol gyda thwrci, stwffin a saws llugaeron, gyda thatws rhost a grefi (GF ar gael)

neu

Rhost ffacbys moron, shibwns, garlleg, cwmin a choriander sawrus, stwffin a saws llugaeron, gyda thatws rhost a grefi (VE, V a GF ar gael)

Te/Coffi neu Ddiod Mefus

Brecwast i Blant

Dewis o:

Pentwr o grempogau gyda saws siocled, ffrwythau a hufen chwip (V)

Selsig porc a ffa pob ar dost ffres

Selsig llysieuol a ffa pob ar dost ffres (VE, V a GF ar gael)

Diod ffrwythau Radnor

Cinio i Blant

Dewis o:

Pizza Coed Nadolig caws a thomato gyda thomatos bach a ffyn ciwcymbr (V)

Rhôl twrci tymhorol surdoes ‘i blant’ gyda thaten rost a grefi (GF ar gael)

Peli cig figan, pasta saws tomatos a chaws, gyda thomatos bach a ffyn ciwcymbr (V, VE)

Diod ffrwythau Radnor

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR