Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi bod Siôn Corn wedi ffeindio amser yn ei galendr prysur i ymweld â ni dros y ’Dolig.
Ar ôl y siom o orfod canslo’i ymweliad y llynedd oherwydd y pandemig byd-eang, mae Siôn Corn yn edrych ymlaen yn fawr at gael ymweld â Llyn Llandegfedd eto. Bydd Siôn Corn yn mwynhau cwrdd â nifer gyfyngedig o westeion lwcus yn ein Caffi Glan Llyn, ac am y bydd y ceirw’n magu nerth at Noswyl y Nadolig, fe fydd e’n cyrraedd ar ei gwch cyflym personol.
Ar ôl brecwast blasus, caiff y plant wahoddiad i fynd allan ar falconi’r Caffi i weld Siôn Corn yn cyrraedd dros y dŵr. Wedyn bydd yn ymuno â nhw yn y caffi (gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs) i sgwrsio â phob un a rhoi rhodd o safon iddynt.
Argymhellir bwcio’n gynnar am fod lleoedd yn gyfyngedig.
Plant £16.95 | Oedolyn gyda phlentyn £10.95