Ymunwch â ni wrth i ECO-TIVITY ddychwelyd.
Trwy gydol gwyliau’r haf, byddwn ni’n cynnal amrywiaeth o sesiynau gweithgarwch cyffrous lle byddwn ni’n mwynhau ein bywyd gwyllt a’n hamgylchedd bendigedig.
Dewch i adarydda i geisio gweld rhai o’n ffrindiau pluog o gwmpas y Llyn. Bydd yna weithdy hefyd lle byddwn ni’n gwneud danteithion blasus i ddenu’r adar i’ch gardd gefn chi.
Addas i blant 8-12 oed. £10 y plentyn.
Sesiwn bore 10am – 12.30-pm. Sesiwn Prynhawn 2pm – 4.30pm.