Ymunwch â ni wrth i ECO-WEITHGARWCH ddychwelyd.
Trwy gydol gwyliau’r haf, byddwn ni’n cynnal amrywiaeth o sesiynau gweithgarwch cyffrous lle byddwn ni’n mwynhau ein bywyd gwyllt a’n hamgylchedd bendigedig. Bydd sesiynau’r wythnosau nesaf yn cynnwys.
Ymunwch â thîm y Gofalwyr mewn sesiwn gelf a chrefft lle cewch greu crefftau campus i’w cadw a bod yn greadigol gyda dail.
Mae’r sesiynau yma yn addas i blant 8-12 oed. £10 y plentyn.
Sesiwn bore 10am-12.30pm. Sesiwn prynhawn 2pm – 4.30pm.