Ymunwch â ni am y profiad eithaf o hebogyddiaeth wrth i Adennydd Cymru ymweld â Llyn Llandegfedd gydag ambell i westai arbennig iawn gan gynnwys Florence yr Eryr Gynffonwen a Hebogiaid Harris ynghyd â’r ffotagraffydd cadwraeth a’r adaryddwr Lewis Phillips.
Cewch ddysgu o ble mae’r gwahanol rywogaethau’n dod, eu statws cadwraeth a’u deiet. Cewch ymuno ar Daith yr Hebog hefyd wrth i ni grwydro’r caeau a’r coedwigoedd cyfagos.
Wrth gerdded, cewch weld sut mae’r Hebogiaid mawreddog hyn yn gweithio ac yn hedfan gyda’i gilydd.
Nid oes angen bwcio, dim ond galw draw! Gellir prynu tocynnau i Daith Gerdded yr Hebog ar y safle ar y diwrnod (hyd at 50 person) Gofynnwn yn garedig i chi beidio â dod â chŵn i ardal y digwyddiad.
10.30am i 11.00am | Cwrdd â’r Adar (am ddim) |
1.00pm | Taith Gerdded yr Hebog (£3) |
3.00pm | Florence yr Eryr Cynffonwen yn Hedfan (am ddim) |