Cynlluniwyd ein cyrsiau Cychod Pŵer RYA poblogaidd yn ne Cymru i ddiwallu anghenion hyfforddi gweithredwyr cychod pŵwe hamdden a phroffesiynol fel ei gilydd. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yma yn Llyn Llandegfedd gallwch ymgeisio am Dystysgrif Hyfedredd Ryngwladol (ICC) sydd ar gael trwy’r RYA.
Mae hyn yn ofyniad mewn llawer o wledydd, hyd yn oed os ydych chi’n ymweld am wyliau.
Sylwch nad ydym yn llogi cychod pŵer nac yn caniatáu hunan-lansio cychod pŵer.

Nid oes yna ddim sy’n fwy gwefreiddiol na sgimio dros wyneb y dŵr. Os ydych chi am roi cynnig ar weithgaredd sy’n gweithio pob rhan o’r corff, yna hwylfyrddio yw’r union beth i chi.
• AM FANYLION •Mae hwylio’n gamp amrywiol dros ben, gyda gweithgareddau at ddant pawb. Dyluniwyd Cynllun Hwylio Cenedlaethol yr RYA i”ch helpu chi i fwynhau pa agwedd bynnag ar y gamp sy’n apelio atoch chi.
• AM FANYLION •Mae gennym amrywiaeth eang o offer o safon uchel i chi ei logi, o rhwyf-fyrddau i ganŵs, a chaiacs i un, dau neu dri pherson.
• AM FANYLION •