Dim ots a ydych chi’n dewis canŵ traddodiadol neu gaiac mwy ystwyth, bydd dyfroedd llonydd Llyn Llandegfedd yn cynnig y cefndir perffaith ar gyfer eich antur padlo.
Diogelwch yw’r peth pwysicaf un, ac os nad oes gennych eich offer eich hun, gallwch logi offer gennym ni.
Felly dim ots a ydych chi’n hen law neu’n ddechreuwr chwilfrydig, bydd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn eich croesawu am Antur Dŵr Cymru bythgofiadwy!
Yn syml, y gwahaniaeth yw’r rhwyf a lleoliad y rhwyfwr. Os dewiswch chi ganŵ, byddwch chi’n penlinio neu’n eistedd ar fainc â rhwyf ag un llafn. Os dewiswch chi gaiac, fel rheol byddwch chi’n eistedd gyda’ch coesau o’ch blaen â rhwyf â dau lafn.
Mater o’r dechneg rhwyfo yw hi hefyd. Beth bynnag yw’ch dewis, y peth pwysig yw mynd allan ar y dŵr a mwynhau!
Mae’r Llyn yn cael ei stocio ar gyfer pysgotwyr a gellir pysgota o’r lan neu o gwch am frithyll seithliw a brithyll brown.
• AM FANYLION •Mae gennym ddigonedd o weithgareddau i chi eu mwynhau ar dir sych yn ystod eich ymweliad. Rydyn ni’n cynnig saethyddiaeth ac taflu bwyeill.
• AM FANYLION •Closiwch at fyd natur trwy archwilio un o’n llwybrau cerdded a’n teithiau wedi eu marcio, sy’n ddelfrydol i blant chwarae, dringo ac anturio.
• AM FANYLION •Yn Llyn Llandegfedd, rydyn ni’n croesawu dechreuwyr, hen lawiau a phawb yn y canol.
Gallwch ddod â’ch cit eich hun i hunan-lansio, archebu lle ar gwrs, llogi’r holl offer gennym ni neu ymuno yn un o’n sesiynau cymdeithasol.
Mae Llyn Llandegfedd yn bartner cyflwyno British Canoeing ac mae’n cynnig gwobrau Start Paddle a Discover Paddle.