Llogwch ein

Wal Ddringo Symudol

Anturiaethau Dŵr Cymru

Gan Dŵr Cymru

Llogi Wal Ddringo Symudol


Dewch ag antur ac egni i’ch achlysur nesaf gyda’n wal ddringo symudol.

Bydd ein tîm gweithgareddau Dŵr Cymru profiadol yn cludo’r wal ddringo symudol i’ch lleoliad ac yn ei gweithredu gweithgaredd hwyliog ac egnïol ar gyfer partïon, ysgolion, achlysuron cymunedol, diwrnodau corfforaethol a dathliadau grŵp – a bydd y lluniau’n werth eu gweld wedyn!

Dros 7 metr o uchder, mae tri wyneb gwahanol i’r wal ac mae’n cynnig profiad cyffrous i bobl o amrywiaeth o oedrannau a lefelau gallu.


Perffaith ar gyfer

Partïon pen-blwydd

Achlysuron grwpiau ieuenctid

Gwyliau a diwrnodau cymunedol

Gweithgareddau tîm corfforaethol

Clybiau chwaraeon a diwrnodau gweithgarwch

Dathliadau grŵp


Beth sy’n gynwysedig

Y pris yw £450 y dydd sy’n cynnwys pum awr o weithredu’r wal ddringo, hyfforddwyr, gosod, datgymalu ac offer diogelwch. Codir tâl ar wahân o £40 yr awr am gostau teithio, ag isafswm o 1 awr, o Gronfeydd Llys-faen a Llanisien.


Holi a bwcio

Cysylltwch trwy e-bost lisvaneandllanishen@dwrcymru.com i ofyn am wybodaeth bellach, holi am ddyddiadau, cael dyfynbris a diogelu eich dyddiad.

Diogelwch a chydymffurfiaeth y gallwch ymddiried ynddynt

Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth bennaf. Mae ein wal ddringo yn cael ei gweithredu i safonau uchel, gan roi hyder i chi wrth drefnu eich achlysur.


Rydyn ni’n darparu

Asesiadau cyflawn o risg a datganiadau o ddull

Hyfforddwyr cymwys a phrofiadol

Offer sy’n cael ei archwilio’n rheolaidd a’i brofi’n drylwyr

Sesiynau briffio clir i bawb sy’n cymryd rhan

Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cynhwysfawr

Gweithrediad sy’n gyson â rheoliadau iechyd a diogelwch y DU

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR